Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth Nes cael yn brydferth ddyfod, I 'mddangos i Dduw ger ei fron, Yn Sïon ei breswylfod. I'r lan, i'r lan tua phen y bryn, Lle mae eu Brenhin Iesu; Ddiffygiant ddim nes myn'd i'r ne', Cânt gyd ag e deyrnasu. Trwy 'fonydd mawrion, dyfnion, du, Ymlaen heb ofni gronyn; Gan ddringo creigydd mawrion, serth, I'r lan trwy nerth eu Brenhin. Rhyfelant a gelynion gâd, Trwy rinwedd gwaed eu Capten, Congcwerant, lladdant ar bob llaw, Nes myn'd tu draw'r Iorddonen. Ni flina neb mae Duw eu rhan, Y llesg, y gwan, a'r clwyfus; O ras i ras fe dygiff ef, I deyrnas nef i orphwys. Fe derfydd byth eu poen a'u gwae, Eu trallod a'u cystuddiau; Cânt ganu yn y nefoedd wen, Yn iach ar ben eu siwrnau. Fe derfydd byth :: Derfydd ar fyr
William Williams 1717-91 Tôn [MS 8787]: St John
gwelir: |
They shall go from strength to strength Until getting beautifully to come, To appear before God, In Zion his habitation. Up, up to towards the top of the hill, Where their King Jesus is; They shall not fail until going to heaven, They shall get to reign with him. Through great, deep, black rivers, Onwards without a grain of fear; While climbing great, steep rocks, Up through their King's strength. They shall fight with a army of enemies, Through the virtue of their Captain's blood, They shall conquer, they shall kill on every hand, Until going beyond the Jordan. None shall be exhausted whose portion is God, The feeble, the weak, and the wounded; From grace to grace he shall lead, To the kingdom of heaven to rest. Vanish forever shall their pain and their woe, Their trouble and their afflictions; They shall get to sing in the bright heavens, Safe at their journey's end. Vanish forever shall :: Vanish shortly shall tr. 2018 Richard B Gillion |
|